Pennaeth Partneriaethau Strategol
Cardiff
Negotiable
Permanent
Rydym yn recriwtio Pennaeth Partneriaethau Strategol ar gyfer Partneriaeth Actif Canolbarth y De.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ...
a1WNz0000041JcbMAE_1768486824
Job description
Rydym yn recriwtio Pennaeth Partneriaethau Strategol ar gyfer Partneriaeth Actif Canolbarth y De.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan hollbwysig yng gweithrediadau PACD. Byddwch yn ymuno â thîm bach ond uchelgeisiol, ac yn gweithio mewn cysylltiad agos â'r Rheolwr Gyfarwyddwr.
Manylion Allweddol
Lleoliad: Gweithio o Bell (Rhanbarth Canolbarth y De) gyda teithio.
Cyflog: £50,000 - £58,000 y blwyddyn dibynnu ar brofiad
Oriau Gwaith: Amser llawn, 35 awr yr wythnos.
Pwrpas
Bydd y Pennaeth Partneriaethau Strategol yn hybu cydweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, a rhyngddynt, er mwyn ymwreiddio dull seiliedig ar systemau o gynyddu chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn cymunedau. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar adnabod, cysylltu, dylanwadu a chefnogi partneriaid i greu newid sylweddol yn iechyd a llesiant ein cymunedau lleol drwy gydweithio ar draws y rhanbarth, er mwyn i ni allu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwella lefelau gweithgarwch gyda'n gilydd.
Manyleb y Person
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad, gwybodaeth a sgiliau yn y meysydd a ganlyn:
Hanfodol
- Profiad o adeiladu perthnasoedd cryf, dylanwadu ar randdeiliaid a meithrin cydweithio.
- Profiad o ddefnyddio ymchwil a mewnwelediad i ddatblygu cyfeiriad strategol a dylanwadu ar newid.
- Profiad o weithio gyda fframweithiau mesur effaith.
- Profiad o arwain prosiectau cymhleth.
- Sgiliau trefnu, arwain a chyfathrebu ynghyd â'r gallu i ysbrydoli a dylanwadu ar bobl eraill.
- Y gallu i flaenoriaethu tasgau, addasu a rheoli amser yn effeithiol er mwyn cwblhau gwaith cyn nifer o derfynau amser.
- Yn gyfarwydd ac yn gwbl ymrwymedig i egwyddorion ac arferion tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n hybu gweithgarwch corfforol a'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan.
- Hyddysg mewn systemau TG.
Dymunol
- Dealltwriaeth o'r dirwedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru a'r fframwaith polisi cysylltiedig.
- Profiad o waith arweinyddiaeth a phartneriaeth sy'n gysylltiedig â systemau mewn amgylchedd amlsector.
- Y gallu i siarad / cyfathrebu yn y Gymraeg a deall logisteg gweithio'n ddwyieithog.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Dewch o hyd i'r pecyn ymgeisydd llawn yma.
Suit i ymgeisio
Cofiwch, fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:
- CV wedi'i ddiweddaru
- Datganiad ategol (dim mwy nag un dudalen) yn amlinellu pam rydych yn dymuno ymuno â'r bartneriaeth a pham rydych yn ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at fanyleb y person.
Dyddiad Cau: Hanner nos 11 Chwefror 2026.
Dyddiad Cyfweld: Wythnos yn dechrau 23 Chwefror 2026 a wythnos yn dechrau 2 Mawrth 2026.
Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.
Our specialist consultant
Latest jobs
Unlock your potential for your next career adventure
Register now to start your new journey.
